Roger Tiley
Ffotograffydd dogfennol Cymreig yw Roger Tiley. Mae ei waith ar gofnodi’r pyllau glo yng Nghymru ac America wedi’i ddefnyddio’n helaeth mewn cyhoeddiadau, yn benodol yn ystod streic y glowyr ym 1984-5. Gweithiodd yn gyntaf fel ffotograffydd diwydiannol ac wedyn astudiodd yn yr Ysgol Ffotograffiaeth Ddogfennol o dan y Ffotograffydd Magnum David Hurn. Mae wedi gweithio i bapurau newydd a chylchgronau cenedlaethol gan gynnwys yTimes, y Sunday Times, y Guardian a’r Observer. Ers yr 80au, mae Tiley wedi canolbwyntio ar weithio ar gomisiynau ar gyfer arddangosfeydd, casgliadau archif, teledu a chyhoeddi llyfrau yn y DU, Ewrop ac America ac mae wedi ysgrifennu tri llyfr. Yn sgil ei waith ar streic y glowyr, fe’i gomisiynwyd i gynhyrchu ‘The Valleys Project’ un o’i gasgliadau gorau o ffotograffau yn adlewyrchu bywyd yng nghymoedd De Cymru. Maent wedi eu hanodi’n drylwyr gan fynegi pob agwedd o fywydau’r glowyr. Mae comisiynau eraill yn cynnwys ffotograffu’r disgynyddion Cymreig sy’n byw yn Pennsylvania ac yn cofnodi’n helaeth y cymunedau glofaol yng Ngorllewin Virginia, Kentucky, Virginia a Tennessee. Comisiynwyd Roger yn ddiweddar i ffotograffu’r forlin wneuthuredig yng Nghymru a bydd ef yn teithio ledled Cymru i gofnodi’r ffordd y mae’r forlin wedi cael ei haddasu i ymateb i anghenion yr unfed ganrif ar hugain.
www.rogertileyphoto.com