Glenn Edwards
Ymwelodd y ffotograffydd Glenn Edwards ag Affrica am y tro cyntaf ym 1993 pan weithiodd ar Newyn Somali ar gyfer yr Independent. Ers hynny ymgymerodd â thros 80 o deithiau i 18 o wledydd Affrica gan gynnwys Namibia, Gambia, Zimbabwe, Tanzania, Kenya, Malawi a Sierra Leone, yn ogystal ag ymgymryd â chomisiynau yn India, De America, y Dwyrain Canol a gwledydd Ewropeaidd cythryblus megis Albania a Bosnia. Mae’r arddangosfs hon yn dangos llawer o ffasedau’r Affrica y mae wedi dod i’w hadnabod; cyfandir llawn bywyd ac eithafion sy’n gartref i 15% o boblogaeth y byd. Astudiodd Glenn Edwards o dan y ffotograffydd Magnum David Hurn o 1983-1985. Yn gyn-ffotograffydd staff gyda’r Western Mail, mae bellach yn gweithio ar ei liwt ei hun ar gyfer papurau newydd a chylchgronau cenedlaethol yn ogystal â dilyn ei brosiectau ei hun. Ef oedd Ffotograffydd Newyddion y Flwyddyn yn y DU ym 1998.