John Downing MBE FRPS
Wedi’i eni yn Llanelli, De Cymru, dechreuodd John ar ei yrfa fel prentis argraffydd ffotograffig gyda’r Daily Mail 1956-61. Gweithiodd ar gyfer yr Express fel ffotograffydd ar ei liwt ei hun o 1962-64, wedyn fel ffotograffydd staff 1964-2001, gan ddod yn uwch ffotograffydd 1985-2001; mae wedi parhau i weithio ar ei liwt ei hun oddi ar hynny.
Mae wedi gweithio ar y rhan fwyaf o’r prif ryfeloedd, gan gynnwys Fietnam, Dwyrain Pacistan/Bangladesh, Rhodesia, Beirut, Irac, Smalia, Rwanda, Croatia, ac wedi ymweld â Bosnia dros ddwsin o weithiau. Bu’n byw am wythnosau lawer ymysg ymladdwyr Gerila yn y Swdan, Nicaragua, a bu yn Afghanistan tair gwaith. Bodiodd ar loriau ar hyd “Ffordd Angau” Canoldir America. Cafodd ei guro a’i garcharu yn Uganda gan Idi Amin – a chymerodd luniau y tu mewn i dwll du Kampala a ddisgrifiwyd gan y Daily Express yn ei bennawd ar y dudalen flaen fel “Lluniau unigryw yn y Byd “. ‘Roedd yn bresennol yng Ngwesty’r Grand yn Brighton, adeg bom yr IRA a chymerodd ragor o ffotograffau unigryw i’r papur.
‘Roedd yn sefydlydd Cymdeithas Ffotograffwyr y Wasg ac ‘roedd yn llywydd tan 1986.
Mae ei wobrau niferus yn cynnwys gwobr Rothman am Luniau Gwasg Prydeinig y Flwyddyn 1971; gwobr Ilford am Ffotograffydd Gwasg Prydeinig y Flwyddyn 1977, 1979, 1980, 1981, 1984, 1988 a 1989; gwobr yr IPC am Ffotograffydd Gwasg Prydeinig y Flwyddyn 1977 a1980 ; Medal Aur Ffotograffiaeth y Cenhedloedd Unedig 1978; Medal Aur Photokina 1978; gwobr Martini am Ffotograffydd Papur newydd Brenhinol y Flwyddyn 1990; gwobr Kodak am Ffotograffydd Nodwedd y Flwyddyn 1992/93; Ffotograffydd Rhyngwladol y Flwyddyn La Nacion (Argentina) 1994-95; enillydd Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Llygad Llundain British Airways 2001; a Gwobr Cyflawniad Oes Urdd y Golygyddion Lluniau Prydeinig 2001. Derbyniodd yr MBE am”Wasanaethau i newyddiaduraeth ” ym 1992 ac fe’i wnaethwpyd yn Gymrawd Anrhydeddus y Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol yn 2011.
http://www.johndowning.co.uk