David Hurn
Wedi’i eni yn y DU o dras Gymreig, mae David Hurn yn ffotograffydd hunanddysgedig a ddechreuodd ei yrfa ym 1955 fel cynorthwy-ydd yn yr Asiantaeth Reflex. Tra’n gweithio ar ei liwt ei hun enillodd enw da gyda’i waith yn seiliedig ar y chwyldro Hwngaraidd ym 1956 ac fe’i wahoddwyd i fod yn aelod llawn Magnum Photos ym 1967. Ym 1973 sefydlodd yr Ysgol Ffotograffiaeth Ddogfennol enwog yng Nghasnewydd ac mae wedi arwain gweithdai ledled y byd. Dywed: “Mae bywyd fel y mae’n agor i fyny o flaen y camera mor llawn cymhlethdod, rhyfeddodau a phethau annisgwyl, ‘does dim angen creu realiti newydd. Mae ‘na fwy o bleser, i mi, mewn pethau fel y maent.” Awgryma mai dau o’r prif ddylanwadau ar ei ymdrechion i fod yn ffotograffyd gwell yw esgidiau da ac edrych ar luniau pobl eraill. Yn ystod yr ŵyl bydd yn trafod y ddau. Mae gan David Hurn enw da yn rhyngwladol fel un o brif ffotograffwyr croniclo Prydain. Mae’n parhau i fyw a gweithio yng Nghymru.