The Eye The Eye

Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol, Aberystwyth

  • 2016
    • 2016 Rhaglen
    • 2016 Arddangosfeydd
    • 2016 Ffotograffwyr
    • 2016 Gweithdai
    • 2016 Gwesteion Eraill
    • 2016 Cystadlaethau
    • 2016 Oriel Ffotograffiaeth
  • Hafan
  • Newyddion
  • Archif
    • 2014
      • Rhaglen
      • Arddangosfeydd
      • Ffotograffwyr
      • Gweithdai
      • Gwesteion Eraill
      • Cystadlaethau
      • Oriel Ffotograffiaeth
    • 2012
      • Rhaglen
      • Arddangosfeydd
      • Ffotograffwyr
      • Gweithdai
      • Gwesteion Eraill
      • Oriel Ffotograffiaeth
  • Gwybodaeth
    • Tocynnau
    • Llety
    • Ein lleoliad
    • Nawdd
    • Diolch
  • Cysylltiadau
eamonn

Like this project?

Appreciate Or

Other projects

David Hurn View Eamonn McCabe Current James Morris View Glenn Edwards View Andy Rouse View Kajal Nisha Patel View Laura Pannack View Ian Berry View
Previous Next Back to portfolio

Eamonn McCabe

Dechreuodd Eamonn McCabe ei yrfa yn ffotograffu ar gyfer papurau lleol cyn gweithio ar ei liwt ei hun i’r Guardian a phapurau cendlaethol eraill. Ymunodd â’r Observer ym 1976 ac enillodd wobr Ffotograffydd Chwaraeon y Flwyddyn pedair gwaith, gan weithio ar y gemau Olympaidd tair gwaith. Ym 1985 fe’i enwyd yn Ffotograffydd Newyddion y Flwyddyn am ei waith adeg trychineb Stadiwm Heysel. Ym 1988 ymunodd â’r Guardian fel Golygydd Lluniau, gan ennill Golygydd Lluniau’r Flwyddyn chwe gwaith. Yn 2001 aeth yn ôl at weithio ar ei liwt ei hun, gan ffotograffu’n bennaf unigolion ym myd y celfyddydau ar gyfer y Guardian ond hefyd ar gyfer papurau newydd a chylchgronau eraill.

Mae ef wedi cynhyrchu nifer o lyfrau ar ffotograffiaeth ac mae’n Gymrawd o’r Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol a’r Amgueddfa Ffilm, Ffotograffiaeth a Theledu Genedlaethol. Mae’n Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Thames, ac yn Ddoctor Anrhydeddus ym Mhrifysgolion East Anglia a swydd Stafford. Mae Eamonn yn ymddangos yn rheolaidd ar radio a theledu yn siarad am ffotograffiaeth ac mae ef wedi arddangos yn helaeth ledled Prydain. Mae ganddo nifer o ddarnau o waith yng nghasgliad yr Oriel Bortreadaeth Genedlaethol yn Llundain.

Project Type

  • # 2012
  • # 2012 Ffotograffwyr
  • # 2014
  • # 2014 Ffotograffwyr
  • # Ffotograffwyr
  • Telerau ac Amodau
  • Diolch
  • EnglishEnglish
  • CymraegCymraeg
© Eye Festival | Aberystwyth | Next Festival Date: 30th Sept – 2nd Oct 2016
Use arrows for navigation