2014 Gwesteion Eraill

Sophie Batterbury yw Golygydd Lluniau yr Independent on Sunday. Dechreuodd ei gyrfa mewn ffotonewyddiaduraeth yn ystafell dywyll yr Independent ym 1989, lle datblygodd ddiddordeb dwfn mewn ffotograffiaeth. Ers hynny mae wedi cynnal nifer o swyddi gan gynnwys cyfnod byr gydag asiantaeth enwogion. Mae hi’n olygydd cyfrannol gyda chylchgrawn ei8ht ac yn eistedd ar fwrdd Cynghrair y Ffotograffwyr Ifanc.

Mae Colin Jacobson yn ohebydd lluniau ac yn ddarlithydd ffoto-newyddiaduraeth. Dechreuodd ar ei yrfa ffotograffig lewyrchus fel ymchwilydd lluniau gyda Chylchgrawn y Sunday Times yn y 70au cynnar. Aeth ymlaen i weithio fel gohebydd lluniau ar gyfer nifer o gyhoeddiadau cenedlaethol gan gynnwys yr Economist, Cylchgrawn yr Observer a Chylchgrawn yr Independent. Gadawodd newyddiaduraeth lawn-amser ym 1995, a daeth yn ddarlithydd ymweliadol a chymrawd ymchwil hŷn yng Nghanolfan Astudiaethau Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd.

Eisteddodd Colin ar reithgor Ymryson Ffotograffiaeth Gwasg y Byd bedair gwaith, gan gynnwys dwy waith fel cadeirydd. Mewn cydweithrediad â’r Cyngor Prydeinig a Sefydliad Reuter, mae Colin wedi cymryd rhan mewn gweithdai ffoto-newyddiaduraeth ledled y byd. Ef oedd sefydlydd a golygydd Reportage, cylchgrawn chwarterol ym maes ffoto-newyddiaduraeth ryngwladol, a aeth ar-lein wedyn fel cyhoeddiad y rhyngrwyd.

Yn 2002 golygodd y llyfr “Underexposed”, a dynodd sylw at agweddau o sensoriaeth, propaganda a sbin ym myd ffotograffiaeth. Hefyd bu’n curadu arddangosfeydd yn ystafell Newyddion y Guardian, Oriel Getty yn Llundain a Phrifysgol Westminster. Yn 2008 golygodd y llyfr “Beyond the Moment: Irish Photojournalism in Our Time”. Ar hyn o bryd mae Colin yn Uwch Ddarlithydd mewn ffoto-newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Westminster yn Llundain.