James Morris
Astudiodd James Morris hanes yn y brifysgol ac aeth ymlaen i ddysgu ffotograffiaeth a gwneuthur ffilm iddo ef ei hun fel modd, yn y lle cyntaf, i deithio ac archwilio. Am flynyddoedd lawer ei brif ffocws oedd ar bensaerniaeth a’r amgylchedd adeiledig, yn ffotograffu adeiladau cyfoes ac hanesyddol ac yn gweithio gyda rhai o benseiri mwyaf blaenllaw’r byd. Ar yr un pryd datblygodd ymarfer o edrych yn fwy eang ar effaith ymyrraeth a phresenoldeb dyn ar y dirwedd, gan ymddiddori mewn beth y gellir dysgu trwy fod yn ymwybodol o hyn. Mae ef o’r farn y datgelir straeon ystyrlon trwy wylio’r dirwedd, sy’n ein helpu i ddeall mwy am le a’i drigolion, ei orffennol yn ogystal â’i bresennol. Trwy ffotograffu tirweddau penodol mae’n anelu at ddarganfod y straeon a fynegir yno. Yn ogystal â nifer helaeth o lyfrau pensaerniol, yn 2004 cyhoeddodd ‘Butabu’ gyda Gwasg Bensaerniol Princeton, archwiliad i dirwedd werinol unigryw Gorllewin Affrica, ac yn 2010 ‘A Landscape of Wales’ gyda Chyhoeddwyr Dewi Lewis. Cydnabyddwyd ei waith trwy wobrau oddi wrth, ymysg eraill, D&AD, Cyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Graham ar gyfer y Celfyddydau Cain a’r Undeb Ewropeaidd. Mae’n arddangos yn rhyngwladol ac mae ei waith i’w weld mewn llawer o gasgliadau preifat a chyhoeddus.