Cambridge Jones
Mae’r ffotograffydd portread Cambridge Jones, a anwyd yng Nghymru, wedi datblygu enw da am ffotograffu’r cyfoethog a’r enwog. O Brif Weinidogion i sêr y byd pop, mae gwrthrychau Jones bob amser yn drawiadol, ond mae ei ddelweddau pwerus ohonynt yn dangos yr enwogion hyn i ni ar wedd newydd.
Mae ei arddangosfeydd wedi cynnwys Portreadau Canmlwyddiant RADA, portreadau o enwogion y llwyfan a’r sgrîn Brydeinig gan gynnwys wynebau cyfarwydd megis Alan Rickman, Joan Collins, John Hurt ac Anthony Hopkins. Mae’n cyfeirio at Cecil Beaton a David Bailey fel yr ysbrydoliaeth ar gyfer ei ymarfer.
Mae ‘Talking Pictures’, ei arddangosfa ddiweddaraf, yn portreadu rhai o unigolion enwocaf Cymru gan gynnwys Michael Sheen, y cyn Python Terry Jones; yr actorion Damian Lewis, Jonathan Pryce, Sian Phillips, Matthew Rhys ac Ioan Gruffudd; yr awdur Jan Morris; y cantorion Shirley Bassey, Bonnie Tyler a Cerys Matthews; y band Cymreig y Stereophonics a’r cantorion opera Bryn Terfel a Katherine Jenkins. Mae Cambridge Jones wedi cael ei ddisgrifio fel ‘ateb Prydain i Annie Leibovitz’.
Mae comisiynau nodedig wedi cynnwys gwaith ar gyfer RADA (Academi Frenhinol y Celfyddydau Dramatig), Ymddiriedolaeth y Tywysog Charles, y BBC, Nelson Mandela, Llundain 2012 (Pwyllgor y Chwaraeon Olympaidd), Maer Llundain Boris Johnson, a Christ Church Rhydychen.
Yn 2009 fe’i wnaethpwyd yn llysgennad i Ymddiriedolaeth y Tywysog.
www.cambridgejones.com