2014 Cystadlaethau

‘Llygad Ffres’ – Cystadleuaeth Ffotograffiaeth ar gyfer Ysgolion a Phobl Ifanc

Noder os gweler yn dda: ‘Rydym wedi ymestyn y dyddiad cau tan Dydd Gwener 6ed Mehefin. Gall ymgeiswyr sydd wedi cyfarfod â’r dyddiad gwreiddiol sef 23ain Mai gyflwyno 3 delwedd arall pe ddymunent.

Trefnwyd ar y cyd gyda Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Y Llygad gan Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac Oxfam Cymru

Mae Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Y Llygad yn dod at ei gilydd ffotograffwyr blaenllaw o’r DU a thramor ar gyfer penwythnos o anerchiadau, trafodaethau, cyfweliadau ac arddangosfeydd er mwyn archwilio a dathlu ffotograffiaeth. Fel datblygiad newydd ar gyfer 2014 ‘rydym yn cynnwys cystadleuaeth ar gyfer ysgolion a phobl ifanc.

Ym mis Ebrill eleni, mae gan ysgolion a phobl ifanc ar draws Cymru y cyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaeth ffotograffiaeth genedlaethol. Mae’r Ŵyl yn gweithio ar y cyd gydag Oxfam Cymru i gynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau a’u dealltwriaeth o ffotograffiaeth a materion rhyngwladol.

Y Gystadleuaeth

Ceir tri chategori: 7 – 11 oed, 12 – 15 oed a chategori arall ar gyfer myfyrwyr hŷn 16 – 21 oed. Y dyddiad cau yw canol dydd ar ddydd Gwener 23ain Mai. Please scroll down for futher information about the competition and application form.

Rhoddir gwobrau yn ogystal â thocynnau ar gyfer yr Ŵyl i’r enillwyr a’r rhai a gymeradwyir. Arddangosir yr holl geisiadau a roddir ar y rhestr fer yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth fel rhan o’r Ŵyl rhwng 4ydd Mehefin – 19eg Gorffennaf, a chyhoeddir yr enillwyr yn ystod yr Ŵyl. Gan fod yr ŵyl yn denu ffotograffwyr rhyngwladol uchel eu bri, dyma gyfle gwirioneddol wych i unrhyw berson ifanc sydd â diddordeb mewn ffotograffiaeth.
Themâu

Ar gyfer ymgeiswyr o dan 11 oed a 12-15 oed: Dŵr trwy lens wahanol.
Mae dŵr yn hanfodol yn ein bywydau beunyddiol. O’r tonnau hyd at y can dyfrio, mae ‘na gymaint o agweddau o’n bywydau sy’n dibynnu ar ddŵr. Ond beth fyddai’n digwydd os nad oedd dŵr o dan ein rheolaeth? Mae dŵr yn hawl ddynol sylfaenol ond nid yw dŵr glân, diogel o fewn cyrraedd pawb. Yma yng Nghymru, ac yn fwy felly mewn rhannau eraill o’r byd, mae pobl yn teimlo effeithiau tywydd anrhagweladwy, megis llifogydd a sychder. Mae’r gystadleuaeth hon yn gyfle i bobl ifanc ddysgu am faterion dŵr byd-eang ac i gymryd ffotograffau a ysbrydolir gan yr hyn y maent yn dysgu. Mae adnoddau Wythnos Ddwr Oxfam ar gael er mwyn i ysgolion a chyfranogwyr wneud ychydig o ymchwil cyn cymryd ffotograffau ar y ddolen hon

Ar gyfer ymgeiswyr 16 – 21 oed: Golwg dyrchafol ar Dlodi. Mae Oxfam yn credu mewn grym pobl yn erbyn tlodi – bod gan bobl yn y trydydd byd y potensial i newid eu bywydau eu hunain. Y cyfan sydd angen arnynt yw ychydig o gymorth. Mae cymorth yn galluogi pobl i wneud newidiadau, i newid cyfeiriad eu bywydau a thrwy hynny cynorthwyo eraill o’u cwmpas, gan ddechrau proses o newid sy’n ymestyn trwy’r gymuned. Mae’r thema arbrofol hon yn annog ymgeiswyr i herio’r delweddau anobeithiol traddodiadol o bobl yn byw mewn tlodi, ac yn lle hynny i gyflwyno persbectif positif trwy eu delweddau o frwydro yn erbyn tlodi. Mae adnoddau a Gwybodaeth gefndir ar gael yma

Criteria’r Beirniaid

Dewisir yr enillwyr yn seiliedig ar ansawdd esthetig y ddelwedd a pha mor dda y mae’r thema wedi’i dehongli.
Mae Cyfarwyddwr Gŵyl y Llygad a’r ffotograffydd dogfennol adnabyddus Glenn Edwards wedi llunio’r cyngor hwn i’ch helpu.
Beth yr ydym yn edrych amdano:

Y peth gwych am ffotograffiaeth yw – nid yw’r hyn sy’n apelio at un person o angenrheidrwydd yn apelio at berson arall, ond yn gyffredinol mae ffotograffau da yn sefyll allan. Ond beth sy’n gwneud ffotograff da?

Y peth cyntaf y byddwn yn edrych amdano yw’r ymateb i’r briff. Mae hyn yn bwysig iawn. Mae gennych wrthrychau i’w ffotograffu ac mae’n rhaid i chi feddwl yn ddwys sut i fynegi’ch hun o fewn gofynion y briff hwnnw.. e.e. Dŵr a ‘L.I.F.T’.
Wrth ffotograffu’ch pwnc byddwch yn cofnodi gwybodaeth er mwyn adrodd stori. Ceisiwch roi stori i’r gwyliwr yn eich ffotograff, felly meddyliwch am beth yr ydych yn ceisio dweud yn y llun e.e. grym, prydferthwch, yr angen am ddŵr etc.
Byddwch yn fentrus. Mae ‘na ddywediad enwog: ‘Os nad yw eich llun yn ddigon da, nid ydych yn ddigon agos’. Gwnewch yn siwr eich bod yn llenwi’ch ffrâm.
Mae angen i NI weld eich bod wedi cymryd gofal ac wedi archwilio’r sefyllfa yr ydych yn ffotograffu e.e. cyfansoddiad da, goleuo da, gwrthrych clir a chyflwyno’r briff mewn modd creadigol a diddorol.
A byddwch mor greadigol ag y gallwch – a mwynhewch eich hun!
A chofiwch – byddwch yn ymwybodol o iechyd a diogelwch – Peidiwch fyth â rhoi chi’ch hun neu’r person ‘rydych yn ei ffotograffu mewn sefyllfa beryglus er mwyn cael ffotograff da.

Sut i wneud cais:

Dyddiad cau: 12 canol dydd, Dydd Gwener 23ain Mai

Rhaid cyflwyno’r holl geisiadau’n electroneg trwy lenwi ffurflen gais ar-lein ar wefan Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Rhaid i ddelweddau fod yn ymwneud â themâu’r gystadleuaeth
Cyfyngir ceisiadau i 3 delwedd y person/myfyriwr – trwy gymryd rhan ‘rydych yn cytuno gyda’n termau ac amodau – darllenwch nhw’n ofalus cyn cyflwyno cais.

CLICIWCH YMA I GYFLWYNO CAIS

Hawlfraint

Mae hawlfraint y ddelwedd yn aros gyda’r ffotograffydd ond mae gan Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Gŵyl y Llygad ac Oxfam Cymru yr hawl i ddefnyddio’r delweddau – mae adnoddau a Gwybodaeth gefndir ar gael yma.

Y Beirniaid yw:

Glenn Edwards; Ffotograffydd Dogfennol, a Chyfarwyddwr Gŵyl y Llygad
Rob Norman; Pennaeth Delweddau, Cyfryngau Cymru
Cath Sherrell; Swyddog Addysg y Celfyddydau Gweledol, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Luned Jones; Swyddog y Cyfryngau a Chyfathrebu Corfforaethol Oxfam Cymru

Gwobrau

O dan 11 oed:

Tocynnau Cyfarch ar gyfer Gŵyl y Llygad a chopi o’r llyfr ‘Africa against all Odds’ i’r 3 ymgeisydd a ‘Gymeradwyir yn Uchel’ yn y categori hwn
Camera i’r enillydd (a ddewisir o’r 3 a gymeradwyir yn uchel) ynghyd â chopi wedi’i arwyddo o lyfr gan un o ffotograffwyr blaenllaw rhyngwladol yr Ŵyl
Ar gyfer yr ysgol a fynychir gan yr enillydd – gweithdy undydd gydag ymgynghorydd addysgol Oxfam Cymru a’r Ffotograffydd Dogfennol Glenn Edwards

12 – 15 oed:

Tocynnau Cyfarch ar gyfer Gŵyl y Llygad a chopi o’r llyfr ‘Africa against all Odds’ i’r 3 ymgeisydd a ‘Gymeradwyir yn Uchel’ yn y categori hwn
Camera i’r enillydd
Ar gyfer yr ysgol a fynychir gan yr enillydd – gweithdy undydd gydag ymgynghorydd addysgol Oxfam Cymru a’r Ffotograffydd Dogfennol Glenn Edwards

16 – 21 oed:

Tocynnau Cyfarch ar gyfer Gŵyl y Llygad a chopi o’r llyfr ‘Africa against all Odds’ i’r 3 ffotograffydd a osodir ar y rhestr fer yn y categori hwn
Camera i’r enillydd
Tiwtorial gyda’r golygydd ffotograffiaeth annibynnol Sophie Batterbury
Cinio gyda rhai o’r ffotograffwyr yn ystod yr ŵyl

Noder os gweler yn dda: Nid yw Tocynnau’r Ŵyl yn cynnwys llety. Ni ellir trosglwyddo’r gwobrau. Mae penderfyniad y Beirniaid yn derfynol