2012 Gwesteion Eraill

Derbyniodd Will Troughton ei addysg yn Ysgol Ramadeg Ardwyn ac Ysgol Penglais yn Aberystwyth a Phrifysgol Newcastle Upon Tyne. Dros yr ugain mlynedd diwethaf mae wedi gweithio gyda’r Casgliad Ffotograffau Cymreig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’n awdur nifer o lyfrau ac erthyglau ar hanes lleol a phynciau eraill.

Mae Sean O’Hagan yn ysgrifennu am ffotograffiaeth ar gyfer y Guardian a’r Observer ac mae hefyd yn ysgrifennwr nodwedd cyffredinol. Mae wedi cyfweld llawer o ffotograffwyr blaenllaw’r byd gan gynnwys Robert Frank, William Eggleston, Josef Koudelka a Stephen Shore. Fe’i enwyd yn ‘Gyfwelydd y Flwyddyn’ yng Ngwobrau’r Wasg Prydeinig yn 2003 am ei broffiliau o’r pêldroediwr Roy Keane a’r cerddor Brian Wilson, ymysg eraill. Enillodd wobr J Dudley Johnston oddi wrth y Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol yn 2011 “am gyflawniad sylweddol ym maes beirniadaeth ffotograffig” mewn cysylltiad â’i waith ysgrifenedig yn y Guardian a’r Observer.

Sophie Batterbury yw Golygydd Lluniau yr Independent on Sunday. Dechreuodd ei gyrfa mewn ffotonewyddiaduraeth yn ystafell dywyll yr Independent ym 1989, lle datblygodd ddiddordeb dwfn mewn ffotograffiaeth. Ers hynny mae wedi cynnal nifer o swyddi gan gynnwys cyfnod byr gydag asiantaeth enwogion. Mae hi’n olygydd cyfrannol gyda chylchgrawn ei8ht ac yn eistedd ar fwrdd Cynghrair y Ffotograffwyr Ifanc.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *