Gwybodaeth

The Arts Centre, Aberystwyth, Cymru

30 Medi – 2 Hydref 2016

Croeso i Ŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol The Eye!

Dros un penwythnos prysur bydd ffotograffwyr blaenllaw o’r DU a thramor yn ymgynnull yn Aberystwyth i gymryd rhan mewn rhaglen orlawn o anerchiadau, trafodaethau, cyfweliadau, adolygiadau portffolio ac arddangosfeydd fel rhan o Ŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol The Eye.

Bydd ffotograffwyr blaenllaw o’r DU a thramor yn siarad am eu gwaith a’u profiadau. Gwesteion i’w cadarnhau.

Cynhelir nifer o arddangosfeydd yn ystod yr ŵyl, mae’r rhain hefyd i’w cadarnhau.

Gobeithiwn y bydd pawb yn mwynhau’r cyfle i ymgolli’n llwyr mewn ffotograffiaeth am benwythnos, yma ar arfordir ysblennydd canolbarth Cymru.

Gwybodaeth