Andy Rouse yw un o’r ffotograffwyr bywyd gwyllt Prydeinig mwyaf adnabyddus, sydd wedi ennill llawer o wobrau yn y DU a thramor. Cyflwynodd gyfres deledu ffotograffiaeth bywyd gwyllt ar gyfer Sianel 5 ac ‘Animal Planet’. Mae’n adnabyddus am ei allu i ffotograffu’n llwyddiannus anifeiliaid peryglus a swil, ac mae’n uchel ei barch am ei agwedd egwyddorol tuag at ei waith. Rhoddwyd yr elw o’i ddau lyfr diwethaf, ar deigrod a gorilas y mynydd, at elusennau cadwraeth.