Arthur Edwards MBE
Arthur yw ffotograffydd brenhinol papur newydd y Sun ers 1977. Mae ef wedi ffotograffu 7 priodas frenhinol, 4 angladd a 6 genedigaeth.
Am dros ddeng mlynedd ar hugain o weithio ar Fleet Street mae ef wedi dogfennu a diffinio’r newidiadiau yn ein brenhiniaeth.
Mae ef wedi ffotograffu rhai o’r achlysuron mwyaf cofiadwy yn hanes y teulu brenhinol yn ymestyn o gyfnod Diana hyd at briodas William a Kate.
Mae wedi ymgymryd â thros 200 o deithiau yn dilyn aelodau’r teulu brenhinol ac mae ganddo berthynas bersonol gyda llawer ohonynt. Bu’n ysgwyd llaw gyda Nelson Mandela ac mae wedi cyfarfod â’r Pab. Mae wedi bod yn Swyddfa’r Oval ac yn y Kremlin.
O’r East End yn Llundain gweithiodd i’r Sun ar ei liwt ei hun, yn gweithio ar griced, pêldroed a newyddion cyffredinol ond ym 1977 gofynnodd y golygydd Larry Lamb iddo ymgymryd â rôl ffotograffydd Brenhinol y papur newydd. Y peth cyntaf a ddaeth i’w feddwl oedd ‘am swydd ddiflas’!
Dernyniodd yr MBE yn 2003 am ei wasanaeth i’r diwydiant papurau newydd fel ffotograffydd.