Chloe Dewe Mathews
Ffotograffydd yn gweithio ar ei liwt ei hun yn Llundain yw Chloe Dewe Mathews. Ar ôl graddio yn y Celfyddydau Cain o goleg Ruskin yn Rhydychen, gweithiodd yn y diwydiant ffilm fasnachol. Wedi’i hysbrydoli, ac eto’n teimlo’n rhwystredig, trodd at ffotograffiaeth fel proses creadigol mwy uniongyrchol a phersonol. Bu gweithio gyda gwahanol bobl yn eu hamgylchedd naturiol yn ei galluogi i gyfathrebu’n fwy effeithiol â’r byd. Ers ymroddi ei hun i faes ffotograffiaeth, mae ei deunydd wedi bod yn llawn diddordeb, yn amrywio o gymryd lluniau torwyr beddau Uzbek ar yr arfordir Caspiaidd i Iddewon Hasidaidd ar eu gwyliau yng Nghymru. Yn 2010 bodiodd ei ffordd o Tsieina’n ôl i Brydain, gan hel deunydd ar gyfer ei gwaith ymhell i’r dyfodol. Arddangoswyd ei gwaith yn Llundain, Berlin, Buenos Aires a Toronto ac fe’i cyhoeddwyd mewn cylchgronau yn cynnwys y New York Times, y Saturday Telegraph, y Sunday Times, Huck, IL Italy, Dazed and Confused a Harpers Bazaar.
Yn ddiweddar derbyniodd Chloe Wobr Ffotograffiaeth Ryngwladol BJP, Gwobr Talent Newydd Julia Margaret Cameron a Gwobr Ffotograffwyr Newydd ‘Flash Forward’ oddi wrth y Sefydliad Magenta. Yn 2011 hi oedd gwrthrych rhaglen ddogfen ar Radio 4 sef “Picturing Britain”, a gyflwynodd hanes ei phrosiect tymor-hir ar is-ddiwylliant y rasys malu ceir. Ym mis Mehefin 2011, ymunodd â’r asiantaeth ffotograffiaeth Panos Pictures; wedyn, ym mis Tachwedd, enillodd ei chyfres Caspian, yn cynnwys delweddau o Naftalan, wobr ffotograffiaeth ryngwladol 2011 y Cylchgrawn Ffotograffiaeth Prydeinig.
www.chloedewemathews.com