Abbie Trayler-Smith
Cafodd Abbie Trayler-Smith ei magu yn Ne Cymru cyn symud i Lundain i astudio’r gyfraith yn Kings College. Tra’n astudio, dechreuodd gymryd lluniau ar gyfer papur newydd y myfyrwyr. Yn gwbl hunan-ddysgedig, dechreuodd Abbie weithio’n rheolaidd fel ffotograffydd ar gyfer y Daily Telegraph ar ôl graddio ym 1998 a rhoddwyd contract llawn- amser iddi yn 2001.
Mae wedi cyflawni nifer helaeth o orchwylion: o gladdedigaeth derfynol Haile Selassie yn Ethiopia i’r rhyfel angof yn y Swdan, yr argyfwng newyn ym Malawi a phen blwyddi Pearl Harbor, Hawaii ac Ynysoedd y Falkland. Cofnododd y tsunami ac ail-ymwelodd â Banda Aceh ar ôl blwyddyn ac eto ar ôl pum mlynedd. Adroddodd ar y gwrthdaro yn Darfur, y Swdan gyda’r newyddiadurwr profiadol Bill Deedes. Mae hi’n aelod o Asiantaeth Ffotograffig Panos.
www.abbietraylersmith.com