Marco Longari
Graddiodd Marco Longari gydag Anrhydedd o’r Istituto Superiore di Fotografia yn Rhufain ym 1999. Dechreuodd ar ei yrfa fel ffoto-ohebydd y flwyddyn gynt, yn cofnodi digwyddiadau yn Kosovo. Mae’r gwaith hwn wedi’i gyflwyno mewn llyfr, “Nachbarn des Krieges” a gyhoeddwyd gan Styria o Awstria. Symudodd i Affrica ar ddechrau’r flwyddyn 2000 lle gweithiodd ar ei liwt ei hun ar gyfer AFP ac ar gyfer cyhoeddiadau Americanaidd ac Ewropeaidd blaenllaw eraill. Yn 2002 casglwyd ei waith ar ffoaduriaid yn y llyfr “Rifugiati” (Sossella) gyda rhagair gan y Dalai Lama. Fel Prif Ffotograffydd AFP gweithiodd yn Nairobi, yn cydlynu sylw’r wasg o ranbarth Dwyrain Affrica, ac yn Jeriwsalem lle mae’n gweithio ar hyn o bryd, yn cofnodi hanes Israel a’r Tiriogaethau Palesteinaidd.Yn ystod ei yrfa mae wedi cofnodi llawer o ddigwyddiadau eraill gan gynnwys argyfwng Darfur, y rhyfel yn Georgia a digwyddiadau’r Arab Spring. Nodweddwyd ei waith mewn nifer o arddangosfeydd unigol ac ar y cyd.