Y Blwch 2012
Ystafell wylio fechan ym mhrif gyntedd y Ganolfan, yn dangos ffilmiau artistiaid, a fydd yn dangos rhaglen gysylltiedig arbennig o waith dros benwythnos yr ŵyl, gan gynnwys gwaith y ffoto-newyddiadurwr Eidalaidd Danilo Balducci yn Armenia:
Domik Town
Armenia
Dioddefodd Gyumri y ddaeargryn ar Ragfyr 7fed 1988. ‘Roedd yr uwchganolbwynt mewn tref o’r enw Spitak, lle lladdwyd 25,000 o bobl. Dinistriwyd dros 20,000 o fflatiau a thai preifat. 23 mlynedd yn ddiweddarach mae Armenia yn parhau i ddioddef y canlyniadau. Y gaeaf yw’r adeg gwaethaf i dros 3000 mil o deuluoedd sy’n dal i fyw mewn tai bychain dros-dro a elwir yn Domiks. Fe’u darperir gan y Llywodraeth Sofietaidd neu fe’u codir gan y bobl ddi-gartref eu hunain.