Olivia Arthur – Jeddah Diary
Mewn cydweithrediad â Magnum
Dechreuodd Olivia Arthur weithio fel ffotograffydd yn 2003 ar ôl symud i Delhi; yn 2006 ymgymerodd â chyfnod preswyl am flwyddyn yn Fabrica yn yr Eidal, pryd y dechreuodd waith ar gyfres yngâ menywod a’r ymraniad diwylliannol Dwyrain-Gorllewin. Mae’r gwaith hwn wedi mynd â hi i’r ffin rhwng Ewrop ac Asia, Iran a Sawdi Arabia.
Yn 2009, fe’i gwahoddwyd gan y Cyngor Prydeinig i arwain gweithdy ffotograffiaeth am bythefnos gyda grŵp o fenywod yn Jeddah, Sawdi Arabia; wedyn dychwelodd i Lundain gyda stoc o ffilm heb ei datblygu a syniadau ar gyfer ei stori ffotograffig. Portread personol, tameidiog yw ‘Jeddah Diary’ o’r menywod y treuliodd Arthur amser efo nhw, gan ddod i’w hadnabod, yn Sawdi Arabia; ‘stori sy’n ymwneud gymaint â lens ffotograffiaeth ag ydi hi’n ymwnâ chynnig golwg ar agweddau gweledol cymhleth bywyd bob dydd menywod Sawdiaidd.’
Ganwyd Olivia Arthur yn Llundain ac astudiodd fathemateg ym Mhrifysgol Rhydychen a ffotonewyddiaduraeth yng ngholeg Argraffu Llundain; fe’i gwahoddwyd yn ddiweddar i ymuno â Magnum.