Israel a Phalesteina mewn ffocws yng Ng ŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol y Llygad.

posted in Cyhoeddiadau

Israel a Phalesteina mewn ffocws yng Ng ŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol y Llygad.

Bydd James Morris yn siarad am ei brosiect ffotograffig sylweddol newydd sef ‘All That Remains’ yng Ng ŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol y Llygad yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth 29fed Mehefin hyd 1af Gorffennaf 2012. Mae ei waith yn cofnodi gweddillion gwasgaredig trefi a phentrefi Palesteinaidd hanesyddol sy’n anghydfynd â ‘myth sefydlu’Â Israel.
‘All That Remains’

Mae’r ffotograffydd James Morris wedi dychwelyd o Israel yn ddiweddar. Cymerodd fel ei fan cychwyn ar gyfer ei brosiect ffotograffig sylweddol ‘myth sefydlu’ Israel fel y’i mynegwyd gan Amos Oz yn ei lyfr ‘The Meaning of Homeland’ hynny yw bod Palesteina yn ‘dir heb bobl ar gyfer pobl heb dir’.

Tra’n ffotograffu ym Manc y Gorllewin aeth James Morris ar deithiau rheolaidd trwy Israel a daeth yn ymwybodol o weddillion gwasgaredig y presenoldeb Palesteinaidd hanesyddol sydd wedi eu lledaenu ar draws y wlad. Gan ymchilio ymhellach, daeth ar draws stori nad yw’n ymddangos yn y penawdau’n aml.

Gyda’i gefndir mewn hanes a phensaerniaeth, ‘roedd o ddiddordeb arbennig iddo ddarganfod y canlyniadau a ddaeth yn sgil y rhyfel Arabaidd-Israelaidd ym 1948.

Mae’r rhan fwyaf o’r ffotograffau yn ‘All That Remains’ wedi eu cymryd ar neu’n agos iawn at leoliad gwreiddiol pentref neu dref Balesteinaidd. Mae rhai yn mynegi golygfa wledig neu goedwigol, neu ddadfeilion rhamantus, mynwent sydd wedi ei hesgeuluso neu dref Israelaidd fodern. Mae rhai o’r lluniau’n gwadu hanes y lle. Mewn lluniau eraill mae’r hanes yn fwy amlwg. .
Bydd James Morris yn siarad am ei brosiect ffotograffig yng Ng ŵyl Ffotograffig Rynglwdol Y Llygad ar y dydd Sadwrn. Hefyd yn siarad yn ystod yr ŵyl bydd Marco Longari ffotonewyddiadurwr uchel ei barch sydd ar hyn o bryd yn gweithio yn Jeriwsalem, yn ffotograffu Tiriogaethau Israelaidd a Phalesteinaidd.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *