Gwybodaeth am Eye Sgyrsiau ac Arddangosfeydd Gwyl 2012

posted in Cyhoeddiadau

Gwybodaeth am Eye Sgyrsiau ac Arddangosfeydd Gwyl 2012

Bydd Eamonn McCabe yn siarad am sut y dechreuodd ei yrfa. Bu’n cymryd lluniau bandiau roc ac yn gweithio i bapurau newydd lleol cyn ymuno â’r Observer lle yr enillodd Ffotograffydd Chwaraeon y Flwyddyn pedair gwaith.Ym 1985 ar ôl ennill Ffotograffydd Newyddion y Flwyddyn am ei waith mewn cysylltiad â thrychineb Stadiwm Heysel aeth ymlaen i fod yn Olygydd Lluniau gyda’r Guardian am dair mlynedd ar ddeg cyn canolbwyntio ar ei waith ei hun, yn ffotograffu pobl ym myd y celfyddydau.

Roger Tiley: “Fe’m ganwyd yng nghymoedd de Cymru ac ‘rwyf wedi byw yno ar hyd fy oes. Fel ffotograffydd, mae cymunedau’r cymoedd wedi ffurfio gwrthrych sylweddol ar gyfer creu delweddau. Mae fy nghefndir wedi fy ngalluogi i gyfathrebu ac ennill ymddiried er mwyn creu delweddau. Mae ffotograffiaeth yn esgus wych i gyfarfod â phobl ac ymweld â llefydd na fyddwn wedi cael y pleser o’u gweld onibai am fy nghamera.

“Mae’r rhan fwyaf o’m gwaith wedi ffocysu o gwmpas diwydiant.”

“Byddaf yn siarad am y deng mlynedd ar hugain o’m gyrfa ffotograffig a’m cyflwyniad i ffotograffiaeth ddogfennol yn hwyr yn y 1970au, tra’n gweithio fel prentis o ffotograffydd diwydiannol. Bydd y darluniadau yn cynnwys gwaith cynnar ac arwyddocâd hanesyddol y delweddau hyd at fy nghomisiwn diweddaraf gyda Chyngor Celfyddydau Cymru. Yn ystod fy nghyflwyniad byddaf yn dangos gwaith o gymoedd de Cymru, rhanbarthau glo’r Appalachian a’m gwaith diweddaraf sef ‘The Manufactured Coast-scape of Wales’. Byddaf yn cyfeirio hefyd at amrediad o ffotograffau o brosiectau a chomisiynau eraill.”

Bydd Marco Longari mewn trafodaeth gyda Colin Jacobson yn siarad am ei waith ar gyfer AFP ar rai o straeon pwysicaf, ac weithiau peryglus, Affrica a’r Dwyrain Canol.

Bydd Cambridge Jones yn siarad am ac yn ateb cwestiynau ar bortreadaeth enwogion, y gêm enwogrwydd a rôl ffotograffiaeth o fewn y maes hwnnw.

Ei brif ddiddordeb mewn gwirionedd yw ffotograffiaeth yn hytrach nag enwogrwydd, sy’n rhoi iddo safle ymlaciol iawn ym myd Hollywood, gwleidyddion ac actorion y gofynnir iddo eu ffotograffu. Â Mae ganddo fwy o ddiddordeb yn Andre Kertez a Cartier Bresson na Hello neu Grazia a bydd yn sôn ychydig am sut mae’n gweithredu o ddydd i ddydd.
Bydd Andy Rouse yn siarad am ei hoff 20 delwedd erioed. Â

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *