Y Blwch
Ystafell wylio fechan ym mhrif gyntedd Canolfan y Celfyddydau yn dangos ffilmiau gan artistiaid, a fydd yn dangos rhaglen gysylltiedig arbennig o waith dros benwythnos yr ŵyl.
Mae ymddiriedolwyr gwreiddiol y Third Floor Gallery sef Joni Karanka, Maciej Dakowicz a Bartosz Nowicki yn datblygu enw da yn rhyngwladol fel ffotograffwyr gyda gwaith cyhoeddiedig, arddangosfeydd a llyfrau yn seiliedig ar Gaerdydd a thu hwnt gan gynnwys ‘Cardiff at Night’ a ‘City – The Season’. Dangosir darnau o’r gwaith cyffrous hwn yn y blwch, a bydd Bartosz Nowicki yn arwyddo copiau o’r llyfr ‘Â City – The Season’ ar fore dydd Sadwrn.