Timothy Allen
Ganwyd Timothy Allen yn Tonbridge yn Ne Ddwyrain Lloegr ym 1971. Pan ‘roedd yn 22 oed, ar ôl graddio o Brifysgol Leeds gyda BSc mewn Sŵoleg, ymadawodd â’r DU a threuliodd 3 blynedd yn teithio o gwmpas Indonesia. Y profiad hwn oedd y catalydd a daniodd ei ddiddordeb mewn ffotograffiaeth.
Ymunodd Timothy â chonfoi cymorth i Bosnia er mwyn ffotograffu prosiect croniclo ei flwyddyn gyntaf. Chwe mis yn ddiweddarach gadawodd y coleg, symudod i Lundain a dechreuodd weithio gyda’r Sunday Telegraph, gan dderbyn bellach ymlaen gomisiynau gan nifer o bapurau newydd Prydeinig ac yn y pendraw, swydd 6 blynedd gyda’r Independent yn gweithio’n bennaf ar ffotograffau nodwedd a phortreadau.
Ymunodd Timothy ag Asiantaeth Ffotograffig Axiom yn 2002 gan weithio ar sbectrwm deinamig ac eang o straeon byd-eang yn amrywio o’r rhyfel gartref yn Ynysoedd Sbeis anghysbell dwyrain Indonesia, i is-ddiwylliant diddorol Pencampwriaethau Tacsidermi’r Byd yn Springfield, Illinois.
Yn dechrau yn 2009 comisiynwyd Timothy gan y BBC i weithio ar y gyfres arloesol Human Planet. Am ddwy flynedd ef oedd â’r gofal am ffotograffiaeth y cynhyrchiad a defnyddiwyd ei luniau yn y cyhoeddusrwydd ar gyfer y rhaglen ledled y byd; mewn llyfr hynod lwyddiannus ac mewn arddangosfa ffotograffig deithiol.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae ffocws ei waith wedi parhau i symud i gyfeiriad sinemaffotograffi DSLR a chynyrchiadau aml-gyfrwng sydd wedi mynd ag ef i bob cornel o’r byd, o 19 000 troedfedd i fyny yn yr Himalayas hyd at 40 medr o dan Môr De Tsieina, yn ogystal â phrosiectau o fewn cymunedau yn yr Arctig, fforestydd glaw trofannol a lleoliadau diffaith pell.
Mae Timothy yn sylwebydd rheolaidd ar y teledu a’r radio ym meysydd y cyfryngau a theithio/archwilio ac mae’n siaradwr cyhoeddus profiadol sydd wedi ymgymryd â theithiau darlithio ysbrydoledig ar gyfer mudiadau megis y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, yn ogystal â chyflwyno areithiau cyweirnod mewn cynadleddau a digwyddiadau corfforaethol ledled y byd.
Yn ystod ei yrfa enillodd: 6 Gwobr Gild ar gyfer Golygyddion Lluniau, 2 Wobr y Wasg Brydeinig, Gwobr Ffotograffydd Gwasg y Flwyddyn ac 11 o wobrau Ffotograffydd Teithio’r Flwyddyn gan gynnwys y teitl cyfredol (2013).
Derbyniodd ‘Human Planet’ lu o wobrau gan gynnwys 8 enwebiad BAFTA, gwobr Emmy a Gwobr Ddiwylliannol yr ITB.
Cynrychiolir Timothy yn fyd-eang gan Great Guns.