TEYRNGED I RON
Ganwyd Ron yn Aberaeron ar 17 Rhagfyr 1921. Dechreuodd ei ddidordeb mewn ffotograffiaeth tra ‘roedd yn gweithio fel gwas negeseuon i fferyllydd lleol, yn ddeg oed. Dysgodd Mr Thomas iddo ddatblygu a phrintio a rhoddodd iddo ei Flwch Brownie cyntaf.
Dechreuodd ei yrfa ffotograffig tra ‘roedd yn gwasanaethu gyda’r Awyrlu Frenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan fe’i anfonwyd i uned ffotograffig yn yr India a’r Dwyrain Pell. Ar ôl y rhyfel daeth yn ôl i Aberaeron ac ‘roedd ar fin sefydlu ei fusnes ffotograffig pan, ym 1950, fe’i barlyswyd mewn damwain beic modur. Yn ystod ei ddwy flynedd a hanner yn yr ysbyty dechreuodd ymddiddori eto yn ei grefft a gweithiodd fel ffotograffydd meddygol yr ysbyty. Wedyn ail gydiodd yn ei fusnes gan weithio am weddill ei oes o’i gadair olwyn. Yn gweithio fel ffotograffydd cymdeithasol yn wreiddiol, symudodd ymlaen i weithio i’r wasg leol, y Western Mail, y BBC a Fleet Street ac wedyn hefyd fel dyn camera ar gyfer ITV yng Nghymru.
Cymerodd ddiddordeb brwd mewn addysg ffotograffig a dysgodd mewn nifer o ysgolion celf yn ogystal â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Ef oedd yr ysbrydolialeth y tu ôl i’r ystafell dywyll symudol gyntaf ar gyfer yr anabl, gan ddweud “Nid gallu yw’r broblem. Y broblem yw Symudedd.”
Fe’i anrhydeddwyd gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym 1986 drwy ei urddo’n Ofydd (y Wisg Werdd) yng Ngorsedd y Beirdd ac fe’i anrhydeddwyd ymhellach yn 2002 drwy ei ddyrchafu’n Urdd Derwydd (y WisgWen). Yn 2003 derbyniodd yr OBE am wasanaethau i ffotograffiaeth. Â
Collodd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth gyfaill annwyl pan fu i Ron farw ddiwedd mis Hydref y llynedd ac ‘rydym yn hynod ddiolchgar i’w deulu am ganiatau i ni ddangos peth o’i waith.