Laura Pannack
Mae Laura Pannack yn Ffotograffydd sy’n byw ac yn gweithio yn Llundain. Derbyniodd ei haddysg ym Mhrifysgol Brighton, Coleg Celf Canolog San Martin a’r LCC.
Mae ei gwaith wedi cael ei arddangos a’i gyhoeddi’n eang yn y DU a thramor gan gynnwys Yr Oriel Bortread Genedlaethol, Y Senedd, Somerset House a’r Neuadd Ŵyl Frenhinol yn Llundain.
Yn 2010 enillodd Laura y wobr gyntaf yng nghategori Portread Sengl Gwobrau Ffotograffiaeth Gwasg y Byd. Mae hi wedi cael ei gosod ar y rhestr fer ar gyfer nifer o wobrau eraill hefyd yn cynnwys Gwobrau Ffotograffiaeth y Byd Sony, Sefydliad Magenta a Lucies IPA.
Yn ddiweddar derbyniodd wobr Vic Odden gan y Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol am gyflawniad sylweddol ym maes ffotograffiaeth gan ffotograffydd Prydeinig o dan 35 oed.
Mae ei gwaith yn ffocysu ar luniau dogfen cymdeithasol a phortreadaeth, ac mae’n ceisio archwilio’r berthynas gymhleth rhwng y gwrthrych a’r ffotograffydd. Ysbrydolir Laura gan brosiectau o’i dyfais ei hun sy’n seiliedig ar ymchwil. Yn ei geiriau ei hun, mae’n gwneud popeth posibl “i ddeall bywydau’r sawl sy’n eistedd iddi, ac i’w cyflwyno mewn modd creadigol”. Mae hi’n gryf o’r farn mai “amser, ymddiried a dealltwriaeth yw’r allwedd i bortreadu gwrthrychau’n gywir”, ac o’r herwydd, mae llawer o’i phrosiectau yn datblygu dros nifer o flynyddoedd. Mae ei ffordd o weithio yn caniatau i berthynas ddilys fodoli rhwng yr esteddwr a’r ffotograffydd, sydd yn ei dro yn egluro arwyddocâd y cyfnewidiadau dynol hyn. Mae ei delweddau’n anelu at awgrymu’r syniadau a’r profiadau a rennir ac sy’n ymddangos o fewn pob ffrâm. Mae Laura yn defnyddio camera ffilm yn bennaf ar ei phrosiectau personol, sy’n caniatau i’w phroses fod yn organig yn hytrach na wedi’i ddiffinio ymlaen llaw gan syniadau pendant, sy’n cymryd pwysau ychwanegol oddi ar yr eisteddwr.
‘Mae gallu arbennig Laura i adeiladu ymddiried a pharch gyda’i gwrthrych yn caniatau iddi fynegi bregusrwydd sydd yr un mor ddiffuant ag ydio’n anodd i’w diffinio.’