Kajal Nisha Patel
Mae Kajal Nisha Patel yn ffotograffydd hunanddysgedig sy’n gweithio yn y DU. Mae hi wedi ennill llu o wobrau a grantiau, gan gynnwys y wobr Magenta Flash Forward 2013 ac yn ddiweddar ‘roedd hi’n derfynydd ar gyfer Gwobr Ffotograffiaeth Menywod Asiaidd am ei gwaith yn ymwneud â’r diwylliant tecstiliau Indiaidd.
Arddangoswyd y prosiect hwn hefyd yn FORMAT13. Mae hi wedi arddangos ei gwaith yn y DU ac yn rhyngwladol gan gynnwys Oriel Whitechapel yn Llundain, Amgueddfa Genedlaethol Singapore a Neubacher Shor Contemporary, Toronto. Nodweddwyd ei gwaith hefyd yn arddangosfa TEDx AshokaU yn San Diego yn 2013.
Mae ei gwaith wedi ymddangos ar BBC World News Asia ac yn y Guardian, yr Economist a’r Daily Telegraph.