Angéle Etoundi Essamba
‘I mi, ffotograffiaeth yw’r angen i fynegi a chyfathrebu. Tra bod yr angen hwnnw’n bodoli, byddaf yn creu.’
Ganwyd Angéle yn Douala a chafodd ei magu yn Yaoundé yn Cameroon, ond aeth i Baris yn ferch ifanc lle cafodd ei haddysg. Yn bellach ymlaen symudodd i’r Iseldiroedd lle fe’i hyfforddwyd yn Ysgol Ffotograffiaeth Broffesiynol yr Iseldrioedd (Nederlandse Fotovakshool).
Mae Angéle wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwaldol gydag arddangosfeydd ledled y byd (Affrica, Ewrop, Asia, De America a’r unol Daleithiau).
Yn ei gwaith mae wedi symud i ffwrdd oddi wrth y cynrychiolaethau stereoteipiedig o’r Affrica sydd wedi’i rhwygo gan newyn a rhyfel, gan ddathlu yn eu lle cyfoeth diwylliannol ac amrywiaeth y cyfandir. Mae’n ffocysu ar greu portreadau o fenywod du sy’n cwestiynu’r cysyniadau o hunaniaeth a deuoliaeth ddiwylliannol, er mwyn hyrwyddo parch, dealltwriaeth a goddefgarwch cyffredin.