Call the World Brother
Gweithiau gan Ffotograffwyr Panos: GMB Akash; Chloe Dewe Matthews; Robin Hammond; Chris Keulen; Andrew McConnell; Espen Rasmussen; Stefan Vanfleteren a Martin Roemers. Mae Panos Pictures yn asiantaeth ffotograffiaeth sy’n arbenigo mewn materion cymdeithasol byd-eang. Maent yn credu mewn “ffotograffu syniadau” ac mae’r asiantaeth yn uchel ei pharch am ei gonestrwydd a’i pharodrwydd i ddilyn straeon y tu hwnt i agenda’r cyfryngau.
Thema’r arddangosfa hon yw dioddefgarwch, ar ei holl ffurfiau, ac mae’r straeon ffotograffig a adroddir yn cynnwys gwlad fechan sy’n cael ei bygwth gan lefelau cynyddol y môr; llafur plant yn India; gweddillion pensaerniol y Rhyfel Oer; anghyfiawnderau a brofir gan bobl y Saharawi; canlyniadau’r ddaeargryn yn Kashmir; ras seiclo lethol yn Eritrea; gwyliau Hasidaidd yn Aberystwyth a phortreadau o bysgotwyr garw’r llynges Felgaidd sy’n lleihau mewn nifer.